P-04-621
Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty
Glan Clwyd ar Agor
Testun y ddeiseb
Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr roi’r gorau i gau’r Uned
Famolaeth dan arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan
Clwyd.
Credwn y bydd cau’r uned yn niweidio lles merched beichiog
a’u teuluoedd, ac y bydd yn peryglu
bywydau.
Nid ydym yn credu ei fod yn iawn nac yn deg i gleifion orfod
teithio hyd at 30 milltir am driniaeth, yn enwedig pan fydd angen
triniaeth ar frys.
Credwn y bydd y pwysau ychwanegol ar staff Ysbyty Maelor ac Ysbyty
Gwynedd yn niweidio’r gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbytai
hynny.
Gofynnwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ystyried opsiynau
eraill (fel cau’r uned i driniaethau dewisol) a chadw
ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer diogelwch merched
beichiog.
Prif ddeisebydd:
Rebecca
Roberts
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer y llofnodion:562
ar lein